Ail-lenwi Cymru

Cenedl Ail-lenwi

Bellach yn ei drydedd flwyddyn gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru a CGGC, bydd Ail-lenwi yn cynyddu faint o ddŵr yfed o safon sydd ar gael ac yn helpu atal llygredd plastig yn y ffynhonnell gyda’r Ap Ail-lenwi. 

Welsh gov logo

Meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd (Llywodraeth Cymru):

With more businesses than ever before joining Refill, it allows Wales to become a step closer to becoming the World’s first Refill Nation. More Refill Stations in our communities will help reduce the number of plastic bottles from ending up in the sea and washed up on our coastlines. By reminding people to reuse and refill, I hope we will see it becoming a social norm.”

ymgyrch ail lenwi cymru yn ehangu yng nghaerdydd

City To Sea wedi derbyn cyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS), weinyddu gan y CGGC i helpu cwtogi llygredd plastig yng Nghaerdydd. Bydd y cyllid, dros y ddwy flynedd nesaf, yn helpu lleihau gwastraff plastig defnydd unigol trwy gynyddu’r nifer o fusnesau sy’n cynnig dewisiadau ail-lenwi ac ailddefnyddio ar draws y ddinas. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio’r ap i ganfod ble gallant ail-lenwi popeth o’u potel ddŵr, cwpan goffi, a bocs bwyd, i gynnyrch glanhau’r tŷ a phethau ymolchi.

Meet the Refill Schemes in Wales

Ail-lenwi Caerdydd

Ail-lenwi Caerdydd

Discover how Cardiff City’s Refill Scheme is preventing plastic pollution, run by Cardiff Council’s Love Where You Live campaign.

Refill Cardiff

Refill Cardiff

Discover how Cardiff City’s Refill Scheme is preventing plastic pollution, run by Cardiff Council’s Love Where You Live campaign.

Refill Prestatyn

Refill Prestatyn

Prestatyn is situated between the Irish Sea coast and Clwydian range of hills. It marks the start of Wales’ nationally recognised trail, Offa’s Dyke.

Ail-lenwi Prifysgolion

Credwn fod gweithio gyda phrifysgolion yn cynnig cyfle enfawr i adeiladu newid positif gyda sefydliadau, unigolion a chymunedau. Rydyn ni wedi creu Canllaw Prifysgolion, diolch i’r cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn ar gyfer unrhyw un a hoffai leihau plastig defnydd unigol yn eu prifysgol, p’un a ydych chi’n fyfyriwr, staff academaidd neu’n rhan o waith rhedeg ystâd y brifysgol.

Cymerwch olwg ar rai o’n hastudiaethau achos gan Brifysgolion Cymru i gael awgrymau da ar sut i weithio gydag Ail-lenwi

Glyndwr University Case Study

Glyndwr University Case Study

Find out how Glyndwr University are joining the Refill revolution and eliminating single-use plastic with their Green Glyndwr campaign.

Dolenni defnyddiol

Gwiriwch wefannau cwmnïau Dŵr Cymru am gyngor ac arweiniad manwl ar Goronafeirws:

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Chroeso Cymru i gefnogi eu neges gyfredol o Hwyl fawr. Am y tro.’ Bydd ein mynyddoedd ac arfordiroedd yn dal yma. Arhoswch adref am y tro a dychwelyd at Groeso Cymru maes o law.

Eisiau sefydlu Cynllun Ail-lenwi yn eich ardal leol? Cliciwch yma i gael gwybod sut!

Rhowch eich tap ar y map! Cofrestrwch eich busnes i fod yn Orsaf Ail-lenwi yma.

Lawrlwythwch yr ap Refill a bod yn rhan o’r #RefillRevolution!

Chyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone

Ar Ddiwrnod Ail- lenwi’r Byd 2021 lansiwyd partneriaeth newydd gyda Chyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone.

Mae Bluestone nid yn unig wedi gosod ffynhonnau dŵr newydd o amgylch y gyrchfan er mwyn i westeion a staff allu ail-lenwi eu poteli amldro, ond maent yn cymryd pethau un cam ENFAWR ymhellach gydag ymroddiad i stopio gwerthu poteli dŵr plastig yn y gyrchfan o 16 Gorffennaf.

Mae’r penderfyniad blaengar hwn yn gam enfawr i ddileu plastig defnydd unigol yng Nghymru – un a amcangyfrifir fydd yn atal cymaint â 25,000 o boteli plastig rhag cael eu defnyddio yn y gyrchfan pob blwyddyn!

 Edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o fusnesau Cymreig yn dilyn esiampl Bluestone wrth i ni ddod ynghyd i droi’r llanw ar lygredd plastig!

Mae gwesteion yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer eu hymweliad trwy bacio potel ddŵr amldro a’i llenwi am ddim!

Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

Mae Ail-lenwi Cymru wedi dod ynghyd gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i lansio Pecyn Hydradu newydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (UHB) yn ymroddedig i greu Cymru iachach, mwy cynaliadwy, trwy annog ein cymunedau i wneud dewisiadau iach.

Yn rhan o’u cynllun partneriaeth Symud Mwy, Bwyta’n Dda, mae pecyn newydd am ddim o adnoddau wedi ei greu i gefnogi cyflogwyr i gyflawni hyn sy’n cael ei lansio heddiw ar y Diwrnod Rhyngwladol Ail-lenwi.

Mae’r pecyn hydradu yn adnodd hawdd i’w ddefnyddio i gyflogwyr, nid yn unig er mwyn sicrhau bod eu gweithwyr wedi eu hydradu ac yn iach, ond i greu cyfle i ysgogi newid ymddygiad o ran defnyddio poteli amldro yn y gweithle ac i greu effaith gadarnhaol ar eu metrigau plastig untro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd wedi ymroi i osod saith o orsafoedd Ail-lenwi ar draws eu safleoedd wedi eu hariannu gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Gosodwyd y Peiriant cyntaf yn Ysbyty’r Barri ym Mehefin 2020, gyda dau arall wedi eu gosod yn Ysbyty Dewi Sant yn fuan wedyn. Ar draws y safleoedd, mae 12,000 ail-lenwad eisoes wedi eu cofnodi.

Dyma ein taith hyd yma! 

2018

Haf
  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei huchelgais i Gymru fod y ‘Genedl Ail-lenwi Gyntaf’.
  • Cyhoeddi Llanilltud Fawr fel Tref Ail-lenwi gyntaf Cymru.
Hydref
  • Hannah Osman yn cychwyn ei swydd fel Cydlynydd Ail-lenwi Cymru a lansio Ail-lenwi Cymru yn swyddogol gan Hannah Blythyn (Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd).
  • Nifer o Orsafoedd Ail-lenwi yng Nghymru ar yr Ap Refill yn cyrraedd 700
  • Daw Ail-lenwi Cymru yn aelod o’r Bartneriaeth Moroedd Glân Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau ar draws pob sector i daclo sbwriel morol, datblygu datrysiadau cynaliadwy a chefnogi cyflawniad y Cynllun Gweithredu i Gymru ar Sbwriel Môr.
  • Hafren Dyfrdwy yn cynnal Diwrnod Gweithredu Ail-lenwi yn Wrecsam yn cofrestru busnesau fel Gorsafoedd Ail-lenwi.
  • Cyhoeddi Prifysgol Abertawe fel Prifysgol Ail-lenwi gyntaf Cymru trwy gofrestru eu holl orsafoedd ail-lenwi ar y ddau gampws.
Gaeaf
  • Ail-lenwi Cymru yn ymuno â Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol, fforwm ar gyfer trafodaeth a dadl, ac i ddarparu cefnogaeth a chyngor i Lywodraeth Cymru ar bolisi morol ac arfordirol strategol.
  • Mae yna bellach 11 Cynllun Ail-lenwi yn cael eu rhedeg mewn cymunedau gan Hyrwyddwyr Lleol.
  • Ail-lenwi Cymru yn helpu lansio ymgyrch Ailgylchu Cwpanau Coffi Prifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd/Cadw Cymru’n Daclus.

2019

Gwanwyn
  • Ail-lenwi Cymru yn cyrraedd dros 1000 o Orsafoedd Ail-lenwi ar yr Ap Refill.
  • Hannah Osman a Dŵr Cymru yn cyflwyno gwasanaeth a gweithdy ar y cyd ar gyfer plant ysgol yn Rhondda Cynon Taf.
  • Ail-lenwi Cymru wedi ei gynnwys yn y Pecyn Cymorth Llwybr Arfordir Cymru, adnodd am ddim, ar-lein sydd wedi ei gynllunio i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes.
  • Dŵr Cymru yn gosod gorsafoedd ail-lenwi yng Ngŵyl y Gelli.
Haf
  • Ail-lenwi Cymru yn dathlu Diwrnod Ail-lenwi Cenedlaethol ar 19eg
  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn lansio tair ffynnon ddŵr newydd yn swyddogol ym Maes Awyr Caerdydd.
  • Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths yn lansio Cynllun Ail-lenwi Mermaid Quay ym Mae Caerdydd gyda phlant ysgol lleol.
  • Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn yn lansio ffynhonnau dŵr newydd ym Mharc Belle Vue yng Nghasnewydd.
  • Dŵr Cymru yn gosod gorsafoedd ail-lenwi dŵr parhaol o amgylch maes Sioe Frenhinol Cymru ac yn eu hychwanegu i’r Ap Refill.
  • Cyngor Bro Morgannwg yn gosod 14 Gorsaf Ail-lenwi Poteli Dŵr newydd mewn parciau a mannau cyhoeddus.
  • Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro yn gosod gorsafoedd ail-lenwi dŵr am y tro cyntaf yn Sioe’r Sir a’u hychwanegu i’r Ap Refill.
  • Gosod Gorsaf Ail-lenwi poteli dŵr newydd ar dir Castell Conwy, Abaty Tyndyrn a Llys yr Esgob Tyddewi gan CADW.
  • Mae yna bellach 50 Cynllun Ail-lenwi gweithredol mewn cymunedau ar draws Cymru yn cael eu rhedeg gan Hyrwyddwyr Lleol.
Hydref
  • Llywodraeth Cymru yn cytuno ar gyllid ar gyfer ail flwyddyn.
  • Gosod Gorsaf Ail-lenwi poteli dŵr newydd ar dir Castell Caerffili, Castell Rhaglan a Chastell Harlech gan CADW.
  • Mae yna nawr dros 1600 o Orsafoedd Ail-lenwi yng Nghymru ar yr Ap Refill.
  • Mae gan bob cymuned fawr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru orsaf ail-lenwi.
  • Hanner Marathon Caerdydd yn gosod gorsafoedd ail-lenwi dŵr yn y Pentref Rhedwyr am y tro cyntaf.
  • Mae gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru bellach Orsaf Ail-lenwi.
Gaeaf
  • Mae yna 57 Cynllun Ail-lenwi gweithredol mewn cymunedau ar draws Cymru.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn yn gosod tair gorsaf ail-lenwi dŵr ar hyd llwybr yr arfordir.
  • Sianeli Twitter a Facebook Ail-lenwi Cymru yn cyrraedd y nod o 1000 o ddilynwyr!

2020

Gwanwyn
  • Mae yna nawr dros 60 cynllun Ail-lenwi yng Nghymru.
  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau i wahardd plastig defnydd untro o’r flwyddyn nesaf.
  • Ail-lenwi Cymru yn cyrraedd dros 1800 o Orsafoedd Ail-lenwi ar yr Ap Refill.
  • Ail-lenwi Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth i Croeso Cymru, y cwmnïau dŵr Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru a busnesau lleol yn ystod y pandemig COVID-19.
Haf
  • Ail-lenwi Cymru yn gorfod ailffocysu ei weithgareddau mewn ymateb i’r pandemig COVID-19 a chau busnesau nad ydynt yn allweddol.
  • Fe weithiodd Ail-lenwi’r Barri, Ail-lenwi’r Mwmbwls ac Aberystwyth gyda’u cynghorau ac ysbytai lleol i osod ffynhonnau dŵr mewn llefydd ble roedd nifer o bobl yn pasio
  • Roedd yr ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol Cyfnod Clo Bach yn boblogaidd trwy gydol misoedd yr haf gyda phobl yn ymgysylltu gyda’n ‘Harwyr Busnesau Lleol’, ‘Cwrdd â’n Pencampwyr Lleol’, ‘Ail-lenwi o Adref’ a’r ‘Awr Fawr’.
HYDREF
  • Llywodraeth Cymru yn cytuno ar drydedd flwyddyn o gyllid ar gyfer Ail-lenwi Dŵr
  • Ail-lenwi Cymru wedi gweithio’n agos gyda Croeso Cymru ar gyfer yr ymgyrch ‘Ymweld â Chymru’n Ddiogel’ ac fe grëwyd tudalen y we newydd ynghylch Ail-lenwi Cymru ar wefan Croeso Cymru.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cychwyn gwaith i osod ffynhonnau dŵr ym mhob un o’u Canolfannau Ymwelwyr yng Nghymru.
GAEAF
  • Fe gyrhaeddom 6,000 o ddefnyddwyr newydd yng Nghymru ar yr Ap Ail-lenwi.
  • Dechreuodd gwaith ar y Pecyn Hydradu yn y gweithle gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
  • Aeth Cymru yn ôl i Gyfyngiadau Symud Cenedlaethol gan gau pob busnes nad yw’n allweddol.
  • Cyflwynwyd y cais ar gyfer Grant gan y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

2021

Gwanwyn
  • Cais am Grant gan y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn llwyddiannus i helpu ehangu’r ymgyrch Ail-lenwi yn rhanbarth Caerdydd.
  • Dechreuodd Ail-lenwi Cymru weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i osod ffynhonnau dŵr mewn gorsafoedd trenau a bysiau canolog.
  • Ail-lenwi Cymru yn creu fideos hysbysebu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol i annog busnesau a defnyddwyr i ymgysylltu gyda’r ymgyrch Ail-lenwi.
  • Dros 90 o fusnesau yng Nghaerdydd yn cynnig ail-lenwadau o goffi, pecynnau bwyd a siopa heb wastraff.
Haf
  • Dathlu’r Diwrnod Rhyngwladol Ail-lenwi cyntaf ar 16 Mehefin 2021 ac mae Ail-lenwi Cymru yn cyrraedd dros 1.4 miliwn ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Ail-lenwi Cymru yn lansio’r partneriaethau gyda Chyrchfan Bluestone a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
  • Cyrraedd dros 2000 o orsafoedd Ail-lenwi yng Nghymru.
  • Lansio Canllaw Prifysgolion ynghyd ag astudiaethau achos gan Brifysgolion Cymru.
  • Cychwyn prosiect ar y cyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru.
  • Lansio ymgyrch dylanwadwyr i hyrwyddo peilot Ail-lenwi Caerdydd.

Rydym yn falch iawn i fod wedi cyrraedd ein targedau i Ail-lenwi Llwybr Arfordir Cymru!

Bellach mae gan bob cymuned fawr Gynllun Ail-lenwi gweithredol ac fe geir Gorsafoedd Ail-lenwi ym mhob cymuned ar hyd Llwybr Arfordir Cymru! Hwre!

Rydyn ni hyd yn oed wedi ein cynnwys yn y Pecyn Cymorth Llwybr Arfordir Cymru i Fusnesau, ased marchnata am ddim i fusnesau sydd wedi eu lleoli ar hyd Llwybr Arfordir Cymru! Gallwch ein gweld ar dudalen 40.

Cysylltwch

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch Ail-lenwi yng Nghymru, cysylltwch â Hannah ein Rheolwr Ail-lenwi Cymru.