YMGYRCH AIL-LENWI CYMRU YN EHANGU YNG NGHAERDYDD 

Rydym yn falch i allu cyhoeddi bod City To Sea wedi derbyn £49,999 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS), i helpu cwtogi llygredd plastig yng Nghaerdydd. Bydd y cyllid, a fydd yn cael ei weinyddu gan y CGGC dros y ddwy flynedd nesaf, yn helpu lleihau gwastraff plastig defnydd unigol trwy gynyddu’r nifer o fusnesau sy’n cynnig dewisiadau ail-lenwi ac ailddefnyddio ar draws y ddinas. 

Mae’r LDTCS yn ariannu prosiectau o fewn pum milltir i orsafoedd trosglwyddo gwastraff penodol neu safleoedd tirlenwi. Yng Nghaerdydd, bydd yn ariannu ehangiad ymgyrch Ail-lenwi City To Sea, trwy ein ap arobryn, sy’n cysylltu pobl i lefydd i fwyta, yfed a siopa gyda llai o blastig.  

Mae’r ap eisoes yn cysylltu defnyddwyr ymwybodol gyda bron i 2000 o fusnesau sy’n derbyn nwyddau amldro ac yn darparu ail-lenwad dŵr tap am ddim yng Nghymru, yn cynnwys amgueddfeydd, bariau, orielau ac archfarchnadoedd, yn ogystal â busnesau llai, teuluol, caffis lleol a bwytai.

Gobeithir y bydd yr ymgyrch estynedig yn cynyddu’r nifer o leoliadau a’r mathau o fusnesau a restrir ar yr ap yng Nghaerdydd, gan helpu gwneud ailddefnyddio ac ail-lenwi yn norm cymdeithasol newydd. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio’r ap i ganfod ble gallant ail-lenwi popeth o’u potel ddŵr, cwpan goffi, a bocs bwyd, i gynnyrch glanhau’r tŷ a phethau ymolchi.

“Rydym yn falch iawn i fod wedi derbyn y Grant LDTCS hwn a byddwn yn gweithio’n agos gyda chymunedau yn rhanbarth Caerdydd i daclo’r mynydd o blastig defnydd unigol sy’n cael ei greu bob dydd heb fod angen. Yr uchelgais hirdymor yw y bydd yr ymgyrch Ail-lenwi estynedig yn arwain at leihau dibyniaeth rhanbarth Caerdydd oddi ar ddefnydd plastig unigol. Bydd galw gan ddefnyddwyr yn ysgogi arloesi cynaliadwy yn y sector, gan effeithio ar newid ymddygiad mewn busnesau a lleihau faint o wastraff plastig sy’n llifo i’n hafonydd a moroedd.” 

Hannah Osman

Rheolwr Ail-lenwi Cymru yn City to Sea

y Ddinas Ail-lenwi gyntaf yng Nghymru

Ein nod yw gwneud Caerdydd y Ddinas Ail-lenwi gyntaf yng Nghymru ble bydd cymunedau yn gweld cwymp mewn gwastraff plastig defnydd unigol oherwydd y cynnydd mewn busnesau yn cynnig ehangiad o ddewisiadau Ail-lenwi. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu tuag at strategaethau atal gwastraff ac ailddefnydd yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru yn creu cyfle i ni weithredu menter lleihau gwastraff strategol ar lefel leol.  

Mae cymunedau yn ganolog i’r ymgyrch Ail-lenwi ac mae trigolion Caerdydd eisoes wedi dangos eu hawydd ar gyfer ymgyrchoedd sy’n seiliedig ar ddatrysiadau ymarferol i helpu lleihau gwastraff yn eu cymdogaeth. Mae yna eisoes gynllun Ail-lenwi Caerdydd wedi ei sefydlu, ac mae gennym hefyd nifer o fwrdeistrefi a chymunedau llai sy’n ymgysylltu â’r ymgyrch yn y rhanbarth.  

“Mae ein grŵp gyrfaoedd cynnar, sy’n cynnwys myfyrwyr PhD yn gweithio ar faterion cysylltiedig i ddŵr, wedi bod yn cydlynu gydag Ail-lenwi Caerdydd o’r cychwyn ac rydym wrth ein boddau i fod yn parhau i weithio ar yr ymgyrch. Mae llygredd plastig yn ganolog i waith nifer o’n hymchwilwyr, ac mae’n allweddol ein bod yn dal i godi ymwybyddiaeth ynghylch y mater hwn.” 

Athro Isabelle Durance

Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd

Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau yn y rhanbarth i sefydlu Cynlluniau Ail-lenwi newydd i ehangu’r ymgyrch hyd yn oed yn bellach. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Chyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg hefyd.  

“Mae’r cyngor wedi cefnogi’r fenter hon o’r cychwyn, wrth i ni wneud ymroddiad i leihau’r defnydd o blastig defnydd unigol yn y ddinas. Mae’r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o’r angen i bobl newid eu harferion, ac i ail-ddefnyddio cynwysyddion plastig yn hytrach na’u taflu. 

Rhaid i ni symud i ffwrdd o’r gymdeithas untro sydd wedi esblygu yn y blynyddoedd diweddar, ac mae’r cynllun hwn yn ffordd arbennig i bobl ail-lenwi eu poteli plastig pan fyddant o gwmpas y lle yn y ddinas yn defnyddio caffis a busnesau eraill.” 

Cynghorydd Michael Michael

Aelod y Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu

Trwy greu rhwydwaith gynhwysfawr o Orsafoedd Ail-lenwi yng Nghaerdydd yn cynnig dewisiadau Ail-lenwi estynedig, byddwn yn gweld lleihad cynyddol mewn gwastraff defnydd unigol wrth i bobl yn rhanbarth Caerdydd fabwysiadu ymddygiadau ail-lenwi a dewisiadau amldro. Bydd busnesau yn elwa o gynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r dewisiadau sydd ar gael a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr a gwerthiant.  

Rydym yn awyddus i ddechrau gweld y prosiect hwn yn datblygu ac angen cefnogaeth busnesau a chymunedau yn y rhanbarth hwn i help cysylltu defnyddwyr yr Ap Ail-lenwi gyda llefydd ble gallant fwyta, yfed a siopa heb y deunydd pacio dibwys.  

Os hoffech chi gymryd rhan mewn trwy sefydlu cynllun yn eich cymuned leol, cysylltwch â Hannah Osman, Rheolwr Ail-lenwi Cymru: [email protected]