Ail-lenwi Caerdydd 

Carwch Eich Cartref

Mae ymgyrch Ail-lenwi Dinas Caerdydd sydd wedi ei ariannu gan Ffyniant Bro Llywodraeth Cymru  yn cael ei rhedeg gan dimau Carwch Eich Cartref a Gwastraff Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth gyda Ardal Gwella Busnes (AGB) Caerdydd, Caerdydd AM BYTH.

Nod Ail-lenwi Caerdydd yw cynyddu nifer y mannau ail-lenwi dŵr sydd ar gael i’r cyhoedd yn y ddinas, er mwyn helpu i annog pobl i symud i ffwrdd o blastig untro a thuag at ailddefnyddio. Byddwn yn cyflawni hyn trwy osod ffynhonnau ein hunain a thrwy gofrestru mwy o fusnesau i fod yn orsafoedd Ail-lenwi. Hyd yn hyn rydym wedi gosod tair ffynnon ddŵr gyhoeddus newydd yng nghanol y ddinas, gan ddefnyddio arian gan y gronfa ffyniant bro Llywodraeth Cymru. Un ym Marchnad Caerdydd a dau o fewn Parc Bute. Rydym hefyd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau allgymorth i hyrwyddo’r ffynhonnau hyn i’r cyhoedd, yn ogystal â’r cynllun Ail-lenwi ehangach. Yn y digwyddiadau hyn rydym wedi dosbarthu dros 400 o boteli dŵr am ddim i’r cyhoedd i’w helpu gyda’u taith Ail-lenwi. Ym mis Mawrth cynhaliwyd diwrnod gwirfoddoli Ail-lenwi lle cofrestrwyd 57 o fusnesau i’r cynllun Ail-lenwi.

Why is preventing plastic pollution important to Cardiff?

Mae’r holl dimau sy’n ymwneud ag Ail-lenwi Caerdydd wedi ymrwymo i atal llygredd plastig yn ein dinas.

Mae’r timau Carwch Eich Cartref a Gwastraff wedi ymrwymo i leihau llygredd sbwriel a phlastig ledled Caerdydd. Maent yn gweithio ar brosiectau gyda thrigolion a busnesau i leihau sbwriel ac i sicrhau bod unrhyw blastig a ddefnyddir yn cael ei ailgylchu. Mae ein timau yn credu, drwy gefnogi’r cyhoedd i feddwl am y ffordd y maent yn defnyddio plastig a thrwy annog ailddefnyddio, y gallwn ddechrau lleihau’r llygredd sy’n effeithio ar ein cymunedau a’n hamgylchedd. Mae gennym nifer o strategaethau sy’n cyd-fynd i gyflawni ein nod o ddod yn economi gylchol, gan gynnwys Caerdydd Un Blaned, y Strategaeth Ailgylchu ar gyfer Caerdydd 2022-2025 a’n Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon sydd ar ddod.

Mae Caerdydd AM BYTH fel yr AGB ar gyfer canol y ddinas yn gweithio i sicrhau gwelliannau i fusnesau yng nghanol y ddinas a’r gymuned ehangach. Fel rhan o gynllun busnes Caerdydd AM BYTH, maent wedi ymrwymo i ystyried ffyrdd o wella cyfleusterau ail-lenwi dŵr yng nghanol y ddinas a pharhau i gefnogi busnesau ar fentrau lleihau gwastraff. Mae Caerdydd AM BYTH hefyd yn ariannu tîm glanhau yng nghanol y ddinas ac yn ystyried y cynllun Ail-lenwi yn gyfle i wella’r amgylchedd lleol ymhellach a lleihau llygredd.

If you’re looking to start a Refill Scheme, we’ve got a guide to help you get started.

Getting involved is easy!

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu’n ymweld â hi, beth am lawrlwytho ap Refil i ddod o hyd i’ch gorsafoedd ail-lenwi agosaf a dechrau lleihau faint o blastig yr ydych yn ei ddefnyddio!

Os ydych yn fusnes sydd â diddordeb mewn dod yn orsaf ail-lenwi, yna gallwch gael gwybod sut i wneud hyn yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn casglu sbwriel i leihau llygredd plastig yng Nghaerdydd, gallwch ddod o hyd i unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod yma, ac os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ymgyrchydd Sbwriel gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma.