Nwyddau amldro + Canllawiau COVID

Newyddion da ar gyfer y Chwyldro Ail-lenwi

Mis diwethaf fe ryddhawyd datganiad gan dros 100 o wyddonwyr yn cadarnhau nad yw plastig defnydd unigol yn ddim mwy diogel nag unrhyw ddeunydd arall a’i bod yn gwbl ddiogel i ddefnyddio nwyddau amldro yn ystod COVID-19 ar yr amod eu bod wedi eu glanhau’n briodol. Golyga hyn ei bod yn ddiogel i staff Gorsafoedd Ail-lenwi a’r cyhoedd ddefnyddio a derbyn poteli, cwpanau a chynwysyddion amldro ar yr amod y dilynir cyngor diogelwch bwyd safonol y llywodraeth ar gyfer iechyd a hylendid.

Fel sefydliad, mae City to Sea wedi bod yn gweithio’n galed i gadw eitemau amldro ar y ddewislen. Cymrwch olwg ar y ganolfan COVID a nwyddau amldro i gael y newyddion, cyngor a chwestiynau cyffredin diweddaraf ar gyfer derbyn eitemau amldro yn ddiogel, gan gynnwys Coffi Digyswllt (Contactless Coffee), canllaw i dderbyn cwpanau amldro yn ddiogel.

 

Cadw’n ddiogel, torri syched

Gan weithio gyda’n partneriaid Ail-lenwi a’r Tasglu Ailddefnyddio REPEAT, rydym nawr wedi creu arweiniad ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi ar dderbyn poteli amldro yn ddiogel ar gyfer ail-lenwi gyda dŵr yfed.

Trwy ddilyn y camau hynod hawdd yma, byddwch chi a’ch staff a chwsmeriaid yn gallu parhau i bweru’r #RefillRevolution ac atal miliynau o boteli plastig defnydd unigol rhag cyrraedd ein ffrwd gwastraff, a chanfod eu ffordd i’n cefnforoedd.

Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn eich helpu i fynd ati i Ail-lenwi’n ddiogel! Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr ymgyrch Ail-lenwi, ceir rhagor o wybodaeth ar gymryd rhan yma.

 

 

Rhestr wirio ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi

Efallai y bydd nifer o systemau dŵr wedi bod yn sefyll ddisymud oherwydd bod yr eiddo naill ai ar gau neu gyda llai o staff yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau diweddar. Dylai gorsafoedd ail-lenwi sy’n ailagor wedi egwyl gymryd golwg ar nodyn briffio Water UK ar adfer cyflenwadau dŵr yfed mewn adeiladau a rhwydweithiau yn dilyn cyfnod hir o ddiffyg gweithgaredd. Mae hyn yn darparu’r arweiniad pwysicaf ar sut i adfer systemau dŵr yfed yn ddiogel – allweddol i unrhyw un sy’n darparu ail-lenwadau!

Dilynwch yr arweiniad yn y Deyrnas Unedig ar gyfer bwytai yn darparu cludfwyd/danfoniadau a siopau a busnesau sy’n gallu agor i’r cyhoedd. Gellir cymryd camau i leihau risg wrth ryngweithio â’r cyhoedd (e.e. wrth werthu bwyd a diod) trwy:

  • leihau cyswllt
  • creu sgriniau ffisegol
  • glanhau’r gweithle
  • darparu arweiniad ar y safle ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid ac ati

Ar yr amod y dilynir yr uchod, mae’n ddiogel i Orsafoedd Ail-lenwi barhau i gynnig ail-lenwad dŵr yfed am ddim i’w cwsmeriaid. Hwre!

Fe wyddom fod gan Orsafoedd sawl ffordd wahanol i gynnig ail-lenwadau. Felly, gan weithio gydag arbenigwyr a gyda chefnogaeth ein partneriaid a’r grŵp REPEAT, rydym wedi datblygu’r canllaw canlynol i arddangos pedwar dewis ar gyfer derbyn poteli amldro’n ddiogel.

Er mai opsiynau digyswllt yw’r dewis a ffafrir – gan fod hyn yn golygu llai o risg o halogiad o gyswllt arwynebol – mae modd defnyddio rhwystrau, golchi dwylo a glanhau cynyddol yn effeithiol i leihau’r risgiau i’r dulliau yma o gynnig ail-lenwadau dŵr.

Cyngor ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi sy’n cynnig ail-lenwadau dŵr dros y cownter

Opsiwn 1 – ail-lenwi digyswllt

 

1. Creu man penodedig ar y cownter i’r cwsmer roi ei botel ddŵr amldro. Rydym yn awgrymu defnyddio’r sticer potel ddŵr Ail-lenwi, cysylltwch os hoffech chi i ni anfon un.

2. Mae’r cwsmer yn tynnu’r caead oddi ar y botel ddŵr amldro, yn rhoi’r botel ar y sticer ar y cownter ac yna’n camu i ffwrdd.

3. Mae’r gweinydd yn camu ymlaen, arllwys dŵr o jwg (yn ddelfrydol gyda chaead) i mewn i’r botel heb gyffwrdd y botel ac yn camu’n ôl

4. Mae’r cwsmer yn camu ymlaen, yn cymryd y botel ac yn symud i ffwrdd o’r cownter cyn rhoi’r caead yn ei ôl – neu gymryd llymaid i dorri syched!

Opsiwn 2 – defnyddio rhwystr

 

1. Mae’r cwsmer yn tynnu’r caead oddi ar y botel ddŵr amldro, yn rhoi’r botel ar y sticer / hambwrdd ar y cownter ac yna’n camu i ffwrdd.

2. Mae’r gweinydd yn cymryd y botel, gan ddefnyddio rholyn glas neu hances bapur i’w ddal (peidiwch â defnyddio plastig!).

3. Mae’r gweinydd yn llenwi’r botel o’r tap ac yn ei roi yn ôl ar y cownter gan dynnu’r hances bapur / rholyn glas.

4. Mae’r cwsmer yn codi’r botel ac yn gosod y caead yn ei ôl.

Cyngor ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi sy’n cynnig hunan lenwi gan gwsmeriaid

1. Mae’r busnes yn creu ardal ail-lenwi benodedig – dylai hyn fod yn lleoliad sydd wedi ei farcio’n glir. Rydym yn argymell defnyddio cynhwysydd caeedig fel jar Kilner mawr neu jwg gyda chaead gan y bydd hyn yn cael gwared ar y risg o halogi trwy resbiradu.

2. Mae’r cwsmer yn golchi ei ddwylo’n drylwyr ac yn defnyddio hylenydd dwylo a ddarparwyd gan yr Orsaf Ail-lenwi yn yr ardal cyn ac wedi cyffwrdd y jwg neu dap. Efallai y byddai’n syniad i Orsafoedd Ail-lenwi hefyd ddarparu hancesi papur i’r cwsmer eu defnyddio wrth gyffwrdd y cynhwysydd ail-lenwi.

3. Mae’r cwsmer yn arllwys dŵr o’r cynhwysydd ail-lenwi i botel ddŵr lân heb gyffwrdd top y botel.

4. Ar ysbeidiau rheolaidd, mae staff yn yr Orsaf Ail-lenwi yn glanhau’r ardal Ail-lenwi a’r cynhwysydd.

5. Wrth ail-lenwi’r cynhwysydd, dylai staff wisgo mwgwd i osgoi halogiad o resbiradu.

Cyngor ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi sy’n cynnig ail-lenwadau o ffynnon ddŵr

Dylid glanhau a chynnal ffynhonnau dŵr yn rheolaidd yn unol â chanllawiau safonol.

1. Mae defnyddiwr y ffynnon yn aros bellter diogel o’r ffynnon ac oddi wrth unrhyw arall wrth aros i’w ddefnyddio. (Gwiriwch gyngor diweddaraf y llywodraeth ar gyfer eich ardal leol ar y canllawiau pellter cymdeithasol a argymhellir).

2. Dylai’r defnyddiwr olchi ei ddwylo’n drylwyr neu ddefnyddio hylenydd dwylo cyn ac wedi cyffwrdd y botwm/unrhyw ran o’r ffynnon. Yn ddelfrydol, dylai osgoi cyffwrdd y golofn ddŵr/ffroenell – fe allai ddefnyddio penelin neu ben-glin i weithredu’r ffynnon ble fo’n briodol. Dylai’r defnyddiwr fod yn ofalus i beidio tisian neu beswch yng nghyfeiriad y ffynnon.

3. Dylai defnyddiwr y ffynnon adael i’r dŵr lifo am 10 eiliad cyn llenwi i sicrhau od y dŵr yn ffres.

Adnoddau defnyddiol ar ffynhonnau dŵr

 

Chwilio am ragor o wybodaeth neu ffyrdd i helpu cadw nwyddau amldro ar y ddewislen? 

Efallai’ch bod yn Orsaf Ail-lenwi sydd hefyd yn cynnig coffi i fynd. Neu eich bod yn cynnig cludfwyd ac eisiau gwneud y dewisiadau cywir o ran cynwysyddion a phecynnu. Wrth i chi lywio trwy ailagor wedi’r cyfyngiadau symud, mae gan y ganolfan wybodaeth COVID ac Amldro yr holl awgrymau, cyngor ac arweiniad i’ch helpu i ailgychwyn mewn ffordd sy’n ddiogel i’ch staff, cwsmeriaid ac i’r blaned.

Hoffem glywed gennych sut ydych chi’n ymdopi wrth gynnig ail-lenwadau yn ystod y cyfnod Coronafeirws, felly anfonwch air atom gydag unrhyw adborth ar y canllaw hwn.